Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cau yn fuan ar gyfer cynllun grant iechyd a lles

Mae cyllid ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl Powys ar gael drwy'r Cynllun Grantiau Bach Iechyd ond mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn agosáu'n gyflym.

Mae gan grwpiau cymunedol - a chymunedau o ddiddordeb - tan ddydd Llun Mai 13eg i wneud cais am arian o'r cynllun, sy'n cael ei ariannu gan Elusen Iechyd Powys ac sy'n cael ei weinyddu gan PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.)

Nod y Cynllun Grantiau Bach i Hybu Iechyd a Llesiant yw darparu cyllid i sefydliadau sy'n dymuno darparu gweithgareddau sy'n cyfrannu at un neu fwy o'r blaenoriaethau canlynol, drwy wella iechyd a lles:

  • Costau byw - ymyriadau iechyd a lles
  • Trafnidiaeth at les - teithiau sy'n galluogi presenoldeb mewn gweithgareddau cymdeithasol sy'n cyfrannu at welliant mewn lles
  • Lles yn y cartref - cefnogi byw'n annibynnol
  • Unigrwydd ac ynysu - ymyriadau iechyd a lles    

Abe Sampson yw Rheolwr Elusen Iechyd Powys, sef Ymddiriedolaeth Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Eglurodd: "Eleni rydyn ni wedi newid y cynllun fel y gall pobl wneud cais am hyd at dair blynedd o gyllid. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu grwpiau i gynllunio ymhellach ymlaen a chefnogi eu cynaliadwyedd hirdymor. "

Eglurodd mai'r uchafswm grant sydd ar gael yw £2,500 y flwyddyn (hyd at £7,500 dros gyfnod o dair blynedd).

"Yn y gorffennol rydym wedi ariannu pethau fel clybiau ar ôl ysgol a chlybiau chwaraeon, gwyliau lleol, a sefydliadau celfyddydau ond rydym yn agored i bob syniad arloesol sy'n gwella iechyd a lles pobl a gallwch weld ein meini prawf ariannu ar wefan PAVO." (https://www.pavo.org.uk/cy/cymorth-i-sefydliadau/cyllid/cynlluniau-grant-pavo/grantiau-bach-iechyd.html)

Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan PAVO. Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: "Mae PAVO yn falch iawn y gall sefydliadau wneud cais am hyd at dair blynedd o gyllid, gan ein bod yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n gysylltiedig â chyllid tymor byr a'r angen am gynaliadwyedd.  Mae'r cynllun grant yn cynnig cyfle gwerthfawr i sefydliadau ddarparu gweithgareddau a fydd o fudd i iechyd a lles pobl."

Rhannu:
Cyswllt: